Nofel tair rhan am deulu tlawd o naw o blant a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigon yw hon o'r 1880au hyd ganol y 1920au; y fam yn eilun yr aelwyd a'r tad yn wynebu heriau difrifol wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i'w plant.Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen a llawer o ddigwyddiadau cythryblus rydym yn dod i adnabod cymeriadau a chymdogion lliwgar, drwg a da, sy'n gwneud y stori mor ddifyr i'w darllen.